Ar ryw adeg yn eu bywyd fe allai llawer o bobl deimlo bod arnynt angen cymorth a chefnogaeth i gwpla'r tasgau hynny sy'n gysylltiedig â bywyd bob dydd. Rydym yn sylweddoli bod gan bob unigolyn ei amgylchiadau a'i anghenion penodol ei hun, ac felly amcan gofal cymdeithasol i oedolion yw galluogi pobl i fyw mewn modd mor annibynnol ag y bo modd. Rydym hefyd am geisio diogelu'r bobl hynny sy'n agored i niwed.
Yng Nghyngor Sir Penfro rydym yn darparu cymorth i bobl dros 18 oed sy'n anabl, oedrannus neu dost. Fe allai'r cymorth gael ei ddarparu'n uniongyrchol gennym ni neu gan asiantaethau preifat neu wirfoddol. Rydym yn sylweddoli taw teuluoedd a ffrindiau, yn aml, sy'n darparu'r rhan fwyaf o'r gofal yn y gymuned a gallwn ni roi cymorth iddynt hwythau hefyd, wrth iddynt weithredu fel gofalyddion.
Mae ein Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol (TIMC) yn darparu gwasanaethau i oedolion o oedran gweithio sy'n cael problemau iechyd meddwl. Mae gweithwyr o Gyngor Sir Penfro a hefyd o Fwrdd Iechyd Hywel Dda yn aelodau o'r tîm hwn.